SL(5)206 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn ymhlith nifer o fesurau i drosi Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy'n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy'n deillio o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio ac yn diddymu Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom (y Gyfarwyddeb Safonau Diogelwch Sylfaenol).

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi darpariaethau'r Gyfarwyddeb Safonau Diogelwch Sylfaenol sy'n berthnasol i'r gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol fel y mae'n berthnasol i weithgareddau sylweddau ymbelydrol, drwy ddiwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (OS 2016/1154). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddileu beichiau rheoleiddio dianghenraid.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio cyfeiriadau presennol at gyfarwyddebau, a diffiniadau ohonynt, a ddiddymwyd gan y Gyfarwyddeb Safonau Diogelwch Sylfaenol.

Y weithdrefn

Penderfyniad negyddol – cyfansawdd.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rheol Sefydlog 21.2 (ix): Mae'r Rheoliadau wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig. Gwnaed y rheoliadau ar sail Cymru a Lloegr.

Craffu ar y rhinweddau

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (y Bil), felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod ymadael. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Ebrill 2018